|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
'Mae Segurdod Corfforol yn achos rhai o glefydau marwol mwyaf y DU - clefyd y galon, strôc, diabetes a chanser y coluddyn – yn ogystal ag amrywiaeth o broblemau iechyd eraill, o iselder i osteoporosis (Asiantaeth Datblygu Iechyd, 2001) Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod gweithgaredd corfforol rheolaidd yn dda ichi, ond nid yw’r mwyafrif ohonom yn gwneud digon o ymarfer i wella ein hiechyd, ac mae rhai ohonom nad ydym yn gwneud dim o gwbl! Beth y mae’n ei olygu i fod yn fwy llawn mynd? Gall bod yn llawn mynd yn gorfforol olygu mynd i nofio, gwneud dosbarth ymarfer neu chwarae camp, ond mae hefyd yn cynnwys pethau pob dydd megis cerdded, garddio a dringo grisiau. Mae manteision bod yn fwy llawn mynd i’w cael o bob math o weithgaredd corfforol ac nid o ymarfer `ffurfiol` yn unig. Beth yw manteision dull llawn mynd o fyw? Beth yw manteision dull llawn mynd o fyw:
Faint o weithgaredd ddylwn i fod yn ei wneud? Yr argymhelliad i oedolion ar hyn o bryd yw 30 munud o weithgaredd corfforol gweddol ddwys ar o leiaf bum diwrnod yr wythnos. (Adran Iechyd) Gweithgaredd gweddol ddwys yw unrhyw weithgaredd sy’n codi cyflymder y galon ac yn eich gwneud chi’n ychydig yn fyr eich gwynt. Gall fod yn weithgareddau megis cerdded sionc, beicio, nofio, ayb. Beth y mae gweithgaredd gweddol ddwys yn ei olygu? Mae’n golygu gweithio’n ddigon caled i fod yn anadlu’n drymach nag arfer a mynd ychydig yn gynhesach, ond nid mor galed fel eich bod yn methu siarad ac ymarfer ar yr un pryd. Beth os na allaf i wneud 30 munud o weithgaredd i gyd ar unwaith? Mae hynny’n iawn, gwnewch beth ellwch chi a’i godi at 30 munud. Pa fathau o weithgaredd ddylwn i fod yn eu gwneud? Mae llawer o wahanol fathau o weithgaredd corfforol i gymryd rhan ynddynt, ond mae hi’n bwysig cofio dewis rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau! Rydych yn fwy tebygol o ddal at weithgaredd os ydych yn ei fwynhau! Mae llaweroedd o enghreifftiau o weithgaredd corfforol gweddol ddwys, nad yw llawer ohonynt yn cynnwys cymryd rhan mewn 'camp' neilltuol, mae’r rhain yn cynnwys:
All bod yn llawn mynd helpu’n erbyn clefyd y galon? Gall. Segurdod yw un o brif achosion clefyd coronaidd y galon a strôcs yn y DU. Mae pobl sy’n ddisymud mewn dwywaith y perygl o ddatblygu clefyd y galon na phobl llawn mynd. Mae gweithgaredd rheolaidd yn arafu culhad yr arterïau i’r galon a’r ymennydd sy’n digwydd wrth fynd yn hŷn. Po fwyaf o ymarfer y gwnewch chi, mwyaf cryf ac effeithlon y daw’r galon, fel ei bod yn gallu pwmpio mwy o waed gyda phob curiad. (Sefydliad Prydeinig y Galon, 2003) All bod yn llawn mynd helpu’n erbyn gordewdra? Gall. Mae gweithgaredd corfforol rheolaidd yn hollbwysig i atal gordewdra ac wrth helpu pobl i golli pwysau. Mae gweithgaredd yn annog y corff i ddefnyddio’r gormodedd braster sydd wedi’i storio. Ond cofiwch fod colli pwysau yn golygu bwyta’n iach ar y naill law a chodi faint o ymarfer a wnewch chi ar y llall. (Sefydliad Prydeinig y Galon, 2003) Rhai cysylltau ymarfer ac iechyd defnyddiol: [Her Iechyd Sir Ddinbych][Asiantaeth Datblygu Iechyd: Gweithgaredd Corfforol] [Sefydliad Iechyd y Byd: Gweithgaredd Corfforol] [Sefydliad Prydeinig y Galon] [Adran Iechyd] [Asiantaeth Datblygu Iechyd] [SportEx Medicine] [Sefydliad Prydeinig y Galon] [Y Gymdeithas Cadw’n Ffit] [Ffitrwydd Cymru] [Community Fit Club]
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||