English Cyngor Sir Ddinbych Her Iechyd Sir Ddinbych
Hafan
Amdanom Ni
Digwyddiadau a Newyddion
Chwaraeon
8Heini
Chwarae
Gweithgareddau Iachus
Canolfannau Hamdden
Parciau
Grantiau a Chyllid
Cysylltwch a Ni
Cysylltau

Cerdded y Ffordd at Iechyd

Menter a gyflwynwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon a’r Asiantaeth Cefn Gwlad ym mis Hydref 2000 yw 'Cerdded y ffordd at Iechyd'. Ei nod yw annog pobl i ddechrau cerdded fel ffordd o wella iechyd corfforol a lles meddyliol. Mae’r fenter yn anelu at wella iechyd a ffitrwydd mwy na miliwn o bobl, yn arbennig y rheini sy’n gwneud fawr ddim ymarfer neu sy’n byw mewn ardaloedd gwael eu hiechyd.

At bwy y mae’r Cynllun Cerdded y Ffordd at Iechyd wedi’i anelu?

Mae’r cynllun wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerdded neu sy’n dymuno dod ag ymarfer i mewn i’w trefn feunyddiol yn araf deg fel rhan o adferiad o salwch neu anaf, neu i ddod yn ffit.

Beth yw manteision y cynllun?

Mae cerdded yn ymarfer bron yn berffaith, nad yw’n gofyn am unrhyw offer neu gost, gall bron unrhyw un ei wneud, gellir ei wneud yn unrhyw le ar unrhyw adeg, a dyma’r ffordd orau i bobl o bob cefndir  ddod yn fwy heini yn raddol.

Gall cerdded rheolaidd helpu hefyd i wella hyder, stamina, egni, rheolaeth pwysau a disgwyliad oes y rheini sy’n cymryd rhan. Gall hefyd leihau’r perygl o glefyd coronaidd y galon, strôcs, diabetes, pwysedd gwaed uchel, canser y coluddyn, clefyd Alzheimer, osteoporosis, arthritis, pryder a straen.

A yw’n costio rhywbeth i gymryd rhan yn y cerdded?

Na. Mae’r Cynllun Cerdded y Ffordd at Iechyd yn rhad ac am ddim.

Rwyf yn gerddwr brwd iawn sy’n hoffi cerdded pellter maith. A yw’r cynllun hwn yn addas imi mewn unrhyw ffordd?

Hyd yn oed er mai prif nod y cynllun hwn yw cynnal ffitrwydd cyffredinol unigolion neu gynnig adferiad i’r rheini sy’n gwella wedi salwch neu anaf, mae’r unigolion hynny sy’n gerddwyr brwd yn gallu darparu gwasanaeth i’r cynllun drwy ddod yn Arweinyddion Cerdded Gwirfoddol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katrina Day ar 01745 356197 os gwelwch yn dda.

Rhai cysylltau defnyddiol:

Menter Cerdded y Ffordd at Iechyd

Cymdeithas y Cerddwyr

 

Yn ôl i Brif Dudalen Dull Iach Llawn Mynd o Fyw

Nofio Am Ddim Mentro Allan Campau'r Ddraig 5x60 Activities North Wales Outdoor Challenge