|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae’n rhaglen Datblygu Nofio’n anelu at gael mwy o bobl o bob oedran i nofio. Mae’n rhedeg ar y cyd â Menter Nofio am ddim Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r fenter yn rhoi cyfle i bobl ifanc o dan 16 mlwydd oed nofio am ddim yn ystod y cyfan o’r gwyliau ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis gwersi nofio, snorclo, polo dwr, nofio i'r anabl, sesiynau rhiant a baban a sesiynau offer chwythu. Rydym hefyd yn cynnig nofio am ddim i bobl dros 60 mlwydd oedd ym mhob pwll nofio yn Sir Ddinbych.
Mae gan y Tîm Datblygu Chwaraeon hefyd raglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr nofio. Gallwch lawr lwytho’r amserlenni nofio ym mhob un o byllau Sir Ddinbych drwy glicio ar y ddolen isod:
I ganfod rhagor am Ganolfannau Hamdden Sir Ddinbych, cliciwch yma.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||