English Cyngor Sir Ddinbych Her Iechyd Sir Ddinbych
Hafan
Amdanom Ni
Digwyddiadau a Newyddion
Chwaraeon
8Heini
Chwarae
Gweithgareddau Iachus
Canolfannau Hamdden
Parciau
Grantiau a Chyllid
Cysylltwch a Ni
Cysylltau

Croeso i Chwaraeon Sir Ddinbych

Croeso i wefan chwaraeon Sir Ddinbych!

Ein gweledigaeth yw i ddathlu Hamdden yn Sir Ddinbych trwy ddarparu gwasanaeth Chwaraeon a Difyrrwch gynhwysol sy’n creu cymunedau mwy iach a llewyrchus a gwasanaeth sy’n chwarae rhan bwysig i gyfoethogi bywydau pobl. Ein nod yw darparu amrediad eang o brofiadau sy’n annog cyfranogi, rhyngweithio a chyrhaeddiad personol.

 

Mae Hamdden wedi ymroddi yn gyfangwbl i gynyddu lefelau gweithgareddau corfforol trwy ymgynghori a chysylltu yn lleol â’r  cymunedau a thrwy weithio gydag a thrwy eraill i greu amgylchedd sy’n cefnogi a darparu cyfle ar gyfer gweithgareddau iach a diogel.   

 

Dros y dair blynedd nesaf, bydd Hamdden yn Sir Ddinbych yn canolbwyntio ar dargedau allweddol mesuradwy sy’n cyfrannu at gyflawni targedau strategol cenedlaethol sydd wedi’w gosod  o fewn agenda Dringo’n Uwch, tra’n ystyried o hyd ein gwerthoedd craidd,  sef annog, cynyddu cyrhaeddiad, gwella iechyd, adeiladu perthynas ac hyder, ysgogi creadigrwydd ac annog cyfranogiad.

 

Mae hwn yn gyfle i chi weld beth sydd ar gael o ran chwaraeon, cyfleoedd hamdden a difyrrwch yn Sir Ddinbych.  Mae gennyn ni dîm o staff proffesiynol ymroddedig yn cyd-weithio i ddarparu y gwasanaethau chwaraeon ac hamdden gorau posib ac rydw i’n eich annog i ganfod beth sy’n mynd ymlaen gan fwrw golwg dros bob rhan o’r wefan.  Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n gallu canfod gweithgaredd sydd at eich dant a byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn rhyw ffordd.  Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r wefan ac os oes gennych gwestiynau neu adborth, cwblhewch y ffurflen ymholiad gyffredinol gan glicio ar ‘cysylltwch â ni’.

 

Jamie Groves
Pennaeth Gwasanaethau Hamdden

Nofio Am DdimMentro AllanCampau'r Ddraig5x60Her Awyr Agored Gogledd Cymru