|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae gennym raglen ddatblygu pêl droed merched a genethod a rhaglen hyfforddiant i ysgolion a chlybiau iau i gael mwy yn cymryd rhan yn y gêm rhwng 6 a 16 oed. Crëwyd rhaglen addysg lawn i helpu hyfforddwyr gael gwobrau hyfforddiant pêl droed.
Amcanion Amcanion cyffredinol Adran Bêl-droed y Sir yw:
Mae’r swyddi’n fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) – Adran Dechnegol. Mae’r Rhaglen Genedlaethol yn cynnwys 5 prif faes: 1. Pêl-droed Ardal Amcan hyn yw cael mwy i gymryd rhan mewn pêl-droed ymhlith pob plentyn o oedran ysgol. Y partneriaid allweddol o fewn yr ardal yw rhaglenni Canolfan Hwyl ac wythnos Hwyl, Cyngor Sir Ddinbych (rhaglen achredu ysgolion babanod/cynradd), Campau’r Ddraig, ysgolion lleol, Clybiau Cymunedol a Chanolfannau Hamdden.
Mae gan Sir Ddinbych ei Swyddog Datblygu Pêl-droed Merched a Genethod ei hun. Yr amcan yw ychwanegu at y cyfleoedd i ferched a genethod yn benodol gymryd rhan mewn Pêl-droed a’u cyplysu â’r strwythurau presennol. Gyda chymorth rhaglen Achredu Ysgolion a Chlybiau Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Champau’r Ddraig. Ar hyn o bryd mae gan Sir Ddinbych 5 clwb yn chwarae o fewn Cynghrair Genethod Gogledd Cymru bob dydd Sadwrn.
Yr amcan yw recriwtio, hyfforddi a datblygu hyfforddwyr i gefnogi datblygiad chwaraewyr. Yn lleol mae’r holl gyrsiau lefel sylfaen ar gael, gyda chyfarwyddyd sut i gael at gyrsiau pellach o drwydded C i ddiploma Proffesiynol.
Yr amcan yw canfod a chefnogi chwaraewyr talentog i ddatblygu eu potensial. Oherwydd nifer y cyrff gyda budd yn yr ardal yma mae Fforwm Datblygu Chwaraewyr ar gyfer yr ardal wedi’i sefydlu i sicrhau bod lles gorau’r chwaraewyr yn cael ei gwrdd. Cynrychiolwyr o Gymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru (NWCFA), Cynghrair Bêl-droed Ieuenctid Y Rhyl a’r Cylch (RDYFL) Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cyngor Sir Ddinbych (CSDd), Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru (WSFA) Cynradd ac Uwchradd, Clwb Pêl-droed Y Rhyl.
Yr amcan yw codi’r ddarpariaeth ar gyfer chwaraewyr o fewn eu Clybiau Iau drwy feini prawf sydd wedi’u nodi yn y Rhaglen Achredu Clybiau. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos â RDYFL a chlybiau dynodedig.
Rwyf yn derbyn nifer o ymholiadau pob dydd ynghylch Pêl-droed. Isod mae ffyrdd y byddwch o bosib yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth y gofynnir amdani’n rheolaidd: Sut allaf i ymuno â chlwb? Ble gall fy mhlentyn fynychu canolfannau pêl-droed gwyliau a phêl-droed hwyl? Sut mae dod yn hyfforddwr? Mae modd ichi gael at fwy o wybodaeth am feysydd y rhaglen drwy wefan FAW Trust.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||